Neidio i'r prif gynnwys

Barod am dair wythnos o gigs, digwyddiadau ymdrochol, preswylfeydd, gosodiadau a phop-yps sy’n gwthio ffiniau arloesedd, perfformiad a thechnoleg cerddoriaeth? Croeso i Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, sy’n ailddychmygu’r hyn y gall gw yl gerddoriaeth fod.

 

DYCHMYGWCH DDINAS

Dychmygwch ddinas llawn cerddoriaeth am dair wythnos ogoneddus...

Dychmygwch ddinas llawn cerddoriaeth am dair wythnos ogoneddus. Dinas o leoliadau gwych a diwylliant, ond hefyd o strydoedd sy’n ein swyno gyda digwyddiadau cerdd ymdrochol, gigs cyfrinachol a phop-yps dyfeisgar. Dinas lle mae ymyriadau cerdd a phreswyliadau anarferol yn dod yn fyw yn sydyn mewn corneli annisgwyl. Dinas lle mae digwyddiadau electronig a dawns, celf sonig a sgyrsiau gydag artistiaid addawol a meddylwyr diwylliannol yn pwmpio ynghyd, yn curo fel un galon enfawr.

Caerdydd yw’r ddinas, a’r ŵyl yw Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, dathliad tair wythnos o gerddoriaeth arloesol a safonol sy’n dod i brifddinas ffyniannus Cymru ym mis Medi a Hydref.

Ei nod yw ailddyfeisio sut y gallai gŵyl yr 21ain ganrif edrych. O’i lansiad, ei nod yw gweithredu fel catalydd ar gyfer newid yn y diwydiant, i ddarganfod pwy sy’n gwthio ffiniau arloesedd, perfformiad a thechnoleg cerddoriaeth, i ailffocysu sylw ar bŵer bywiog a photensial creadigrwydd, a chludo cynulleidfaoedd chwilfrydig, awchus, agored-eu-meddwl ar ei thaith.

Mae Caerdydd eisoes yn ganolfan gyffrous, swnllyd ac egnïol ar gyfer gweithgarwch o’r fath, lle mae talent cartref arloesol – o Mace the Great a Juice Menace i Minas a Das Koolies, yn camu i lwyfannau mewn lleoliadau eiconig ar lawr gwlad yn ogystal â lleoliadau mawr.

Dros y misoedd nesaf, bydd rhaglen ffyniannus o artistiaid yn cael ei rhyddhau, ond am y tro, cofiwch gadw’r dydd yn rhydd a gwneud cynlluniau i ymweld â Chaerdydd yn ystod y cyfnod hwn i brofi dechrau rhywbeth arbennig iawn, iawn.

Gyda’r nod o ddenu dros 20,000 o bobl i’r ddinas yn ei blwyddyn gyntaf, bydd yr ŵyl yn dod â thalent ryngwladol a lleol ynghyd, gan gynnwys enwau cyfarwydd a thalent syfrdanol newydd. Mae safle’r ŵyl yn ymestyn drwy labyrinth o ofodau – strydoedd prysur a chorneli tawelach – trwy ganol dinas deinamig Caerdydd i aber afon a llyn dŵr croyw Bae Caerdydd.

Ymhlith y lleoliadau mae Utilita Arena Caerdydd, Eglwys Gadeiriol Llandaf, Canolfan Mileniwm Cymru, Y Neuadd Fawr, Tramshed, Clwb Ifor Bach, CULTVR, Cornerstone, The Moon, Fuel, Porters a Depot, yn ogystal â mannau cyhoeddus wedi’u hail-ddychmygu.  Bydd yr ŵyl cerddoriaeth newydd enwog, Sŵn (sy’n prysur nesáu at ei hugeinfed flwyddyn) a phenwythnos celfyddydau rhyngwladol Canolfan y Mileniwm, Llais (sy’n dathlu amrywiaeth y llais ledled y byd ac ar draws genres) yn dod yn rhannau hanfodol o’r ymdrech fawr, uchelgeisiol hon.

Bydd seinluniau trefol a gomisiynwyd yn arbennig, cynhadledd dechnoleg a thalent, sesiynau diwydiant a rhaglen ymylol brysur yn ychwanegu haenau ychwanegol o rythm a sŵn at gyrhaeddiad blaengar a brwdfrydig yr ŵyl.  Bydd nosweithiau gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd hefyd yn dod â rhai enwau mawr yn y diwydiant ynghyd â thalentau’r dyfodol.

Gyda’r bwriad o herio, cyffroi ac ysbrydoli ffans ar draws cenedlaethau a genres, a darparu llwyfannau ac arddangosfeydd ar gyfer syniadau, synau a chydweithrediadau radical, bydd Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn torri tir newydd mewn ffyrdd aflonyddus, dargyfeiriol ac ysblennydd. Bydd hefyd yn tanio hwyliau dinas gyfan, gan gyflwyno profiadau cyfunol cydamserol, gan droi’r sŵn i fyny mewn dathliad torfol o’r hyn y gall cerddoriaeth fod, a beth – yn ein breuddwydion gwylltaf, mwyaf swnllyd – y gall ei wneud.

CADWCH YN GYFOES

Cofrestrwch ar gyfer Dinas Gerdd Caerdydd i dderbyn diweddariadau cyffrous yn ymwneud â cherddoriaeth, digwyddiadau, pethau i'w gwneud a mwy gan y tîm. Mae Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yn un o nifer o brosiectau gan Ddinas Gerdd Caerdydd, a reolir gan Gyngor Caerdydd.

YN CYNNWYS

Gyda llawer mwy i ddod…